Ar Log - Taith Dathlu'r 50
- Contact Presenter
Donate
Ar Log - Taith Dathlu'r 50
Theatr Y Gromlech - Ysgol y Preseli, Crymych, UK
Mae 2026 yn flwyddyn arbennig iawn i Ar Log. Go brin y byddai unrhyw un wedi dychmygu y byddai’r grŵp yn dathlu eu pen-blwydd yn 50 pan ffurfiwyd Ar Log yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw nôl yn 1976. Ond, yn dilyn anogaeth gan y Dubliners ar ôl cyngerdd cyntaf y grŵp, mae Ar Log, erbyn hyn, wedi mynd â cherddoriaeth Cymru i dros ugain o wledydd ar dri chyfandir a nhw oedd y grŵp gwerin traddodiadol Cymraeg proffesiynol cyntaf.
Er mwyn dathlu’r garreg filltir hon mae Ar Log yn trefnu taith yng Nghymru a’r Almaen, ac yn rhyddhau albym newydd, Ar Log VIII. Byddant yn perfformio yn Theatr y Gromlech, Crymych, ar Nos Sadwrn, 10 Hydref am 7:30yh.